Wrth deimlo grym fy llygredd

1,2,(4);  1,3;  1,5.
(Ofn Gwrthgilio)
Wrth deimlo grym fy llygredd
 'Rwy'n ofni tynu'n ol,
Duw dyro nerth bob mynyd
  I redeg ar dy ol;
Rho i mi ysbryd gwylio,
  Tra byddwyf ar y llawr,
A chadw ofn duwiol
  Yn f'enaid bob rhyw awr.

Rho gymhorth i ryfela,
  A ngolwg ar y gwaed,
Nes cael y gelyn ola'
  O'r diwedd dan fy nhraed;
Trwy ffydd gwna i mi edrych
  Yn graff i'r ochr draw;
Yn ngwyneb profedigaeth,
  O cynal fi yn dy law.

Rho gymhorth imi lynu
  Lle ni bo ond dau neu dri;
Na'm dener byth i gefnu
  Ar sanctaidd byrth dy dŷ;
Rho'r ffydd i mi a'm cynnal
  Hyd drothw'r
      byd a ddaw;
Drwy demtasiynau'r anial
  O! cadw fi'n dy law.

Dysg i mi brynu'r amser,
  A'i dreulio i ti'n llwyr,
Myfyrio ar dy gariad,
  O'r boreu hyd yr hwyr;
Dal fi a'th fraich dragwyddol,
  Oddiyma hyd y bedd
A dwg fi ar ddelw Iesu
  I mewn i wlad yr hedd.

Os gwelir fi bechadur,
  Ryw ddydd, ar ben fy nhaith,
Rhyfeddol fydd y canu,
  A newydd fydd yr iaith;
Yn seinio "Buddugoliaeth,"
  Am iachawdwriaeth lawn,
Heb ofni colli'r frwydyr,
  Na bore, na phrydnawn.
gwylio :: gwylied
bob rhyw awr :: bob yr awr
A ngolwg ar :: Yn lew ar faes

1: Casgliad o Bum Cant o Hymnau (D Jones) 1810
2: Casgliad Joseph Harris 1845
3: Richard Samuel Rogers 1882-1950
4: Caniadau Sion 1827
5: Amryw Hymnau Dymunol a Phrofiadol (Harri Sion) 1773

Tonau [7676D]:
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Mannheim (H L Hassler / J S Bach)
Penmorfa (<1835)
Penmynydd (<1845)
Romain (<1835)

gwelir:
  Duw dysg im' brynu f'amser
  Dyma odfa newydd (O Arglwydd dyro rym)
  Os gwelir fi bechadur

(The Fear of Backsliding)
On feeling the force of my corruption
  I am fearing drawing back,
God, give me strength every minute
  To run after thee;
Grant my spirit to watch,
  While ever I am on the earth,
And keep a godly fear
  In my soul every hour.

Give help to battle,
  And a view of the blood,
Until getting the last enemy
  In the end under my feet;
Through faith make me look
  Intently to yonder side;
In the face of trial,
  O help me with thy hand.

Grant help for me to stick
  Where there be only two or three;
That I may never be enticed to turn my back
  On the sacred gates of thy house;
Give the faith to me that will uphold me
  As far as the threshold of the
      world to come;
Through the temptations of the desert
  O keep me in thy hand!

Teach me to redeem the time,
  And spend it completely for thee,
To meditate upon thy love,
  From the morning until the evening;
Keep me with thy eternal arm,
  From here until the grave
And bring me in the image of Jesus
  Into the land of peace.

If I, a sinner, am to be seen
  Some day, at my journey's end,
Wonderful shall be the singing,
  And new shall be the language;
Sounding, "Victory,"
  For full salvation,
Without fearing losing the battle,
  Neither morning, nor evening.
::
::
And a view of :: As a lion on the field of

tr. 2021 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~